Cuddia dy galon rhag goleuni'r nen,
Cuddia'r ser rhag goleunu'n wen,
Cuddia dy enaid rhag rhyddid y byd,
Cuddia dy werthoedd y rhai rhad a'r rhai drud,
Cuddia dy euog y rho fi i ch'di,
Cuddia dy euog sy'n perthyn i mi,
Cuddia'r teimladau wrth weld fy llun,
Cuddia'r ffordd y gafoch eich trin,
Cuddia'r poen, y dagrau y ddaef,
Cuddia'r atgofion fydd yno am maith,
Cuddio'r rhyfeloedd y brwydron bach,
Cuddio'r anafiadau mewnol, bob un graith,
Cuddiwch yr chetan, yr oedi, celwyddau,
Cuddiwch y gwir, mwytha dy gledrau,
Cuddia'r enwau bach ffug y rhoddais i ch'di,
Cuddia bob un atgof si,
Cuddia'r angen i glyw wrthaf i,
Cuddia'r angen i mi ddweud caru ti,
Cuddia'r holl dristwch a ddaw,
Pan welwch un arall yn ddal fy llaw,
Cuddio fo gyd wrth weld fi'n araf bach mynd,
Cuddia'r holl boen pan glowch chi ffrind'
No comments:
Post a Comment